Ein Polisi - Golwg Gyffredinol
Mae Innovas Consulting Solutions Ltd (Innovas) yn rheoli’r safle hwn ar ran Venture to Think ac yn darparu’r wefan hon a’r holl gynnwys, adborth, cyngor, arweiniad, cynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth, dogfennau, negeseuon, ffeiliau a graffigau sydd ar gael drwy’r wefan at eich defnydd chi yn amodol ar yr amodau a’r telerau sydd wedi’u nodi yn y ddogfen hon ac unrhyw newidiadau i’r Telerau ac Amodau hyn y gallem eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd.
 
Drwy fynd ar y wefan hon neu ei defnyddio mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys, heb gyfyngiad, defnyddio unrhyw wasanaethau, lawr lwytho unrhyw ddeunyddiau, neu bori’r Wefan, rydych yn cytuno i’r Telerau ac Amodau hyn ac rydych wedi’ch clymu ganddynt.

Cadwn yr hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn a chanllawiau neu reolau eraill sy’n cael eu postio ar y wefan o dro i dro yn ôl ein disgresiwn ni. Rydym yn eich cynghori i ddarllen drwy'r telerau a’r amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r wefan hon ac argraffu copi ohonynt i chi gyfeirio ato yn y dyfodol. Mae defnyddio’r wefan hon yn dangos eich bod yn derbyn yr amodau hyn, p'un ai a ydych wedi tanysgrifio â ni ai peidio. Os nad ydych yn derbyn yr amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan hon.
 
Eiddo Deallusol
Mae cysyniadau, deunyddiau, cynnyrch a gwasanaethau'r wefan hon wedi'u gwarchod drwy hawlfraint, nod masnach, patent a/neu gyfreithiau eiddo deallusol eraill. Gall defnyddio cysyniadau, deunyddiau, cynnyrch a gwasanaethau'r wefan hon heb awdurdod dorri cyfreithiau o’r fath yn ogystal â’r Telerau ac Amodau hyn ac nid ydym yn rhoi unrhyw hawl i ddefnyddio’r deunyddiau hyn mewn unrhyw ffordd ond yr un a ddisgrifir yn y contract y cytunwyd arno. 

Cynnwys Deallusol
Cadwn yr hawl i newid cynnwys y wefan ar unrhyw adeg.

Ymddygiad Defnyddwyr
Mae defnyddwyr y wefan hon, yn ymwelwyr neu’n aelodau, yn cytuno i lynu wrth y rheolau ymddygiad canlynol:
Ymwadiad
Fel rhywun sy’n defnyddio gwefan Enterprise Catalyst, rydych yn deall ac yn cytuno:
Cyfyngiadau
Rydych yn addef na fyddwch yn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol yn ein herbyn ond lle mae cyfyngiadau o’r fath yn annilys yn ôl y gyfraith.
close