Mae Innovas Consulting Solutions Ltd (Innovas) yn rheoli’r wefan hon ar ran Venture to Think. Trwy gydymffurfio â gofynion GDPR, mae Innovas wedi creu'r polisi preifatrwydd hwn i ddangos ein hymrwymiad dwfn i breifatrwydd y rhai sy'n ymweld â'n gwefan a'n cwsmeriaid.
Fel cwmni, rydym yn glynu’n gaeth wrth holl ganllawiau’r diwydiant ac yn adolygu ein polisïau a'n gweithdrefnau'n barhaus er mwyn gwarchod a sicrhau diogelwch gwybodaeth ein hymwelwyr a’n cwsmeriaid. Mae Innovas wedi bodloni gofynion Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2016). Mae’r cwmni wedi cofrestru â’r Comisiwn Diogelu Data. Rhif cofrestru’r Cwmni yw: Z9464523.
Isod esbonnir ein hymrwymiad i ddiogelu preifatrwydd Defnyddwyr y Rhyngrwyd.
Gwybodaeth am Gasglu a Defnyddio
Innovas sy’n gyfrifol am yr wybodaeth a gesglir ar y wefan hon. Ni fyddwn yn gwerthu na rhentu'r wybodaeth hon i eraill nac yn ei rhannu ag eraill mewn unrhyw ffordd wahanol i'r ffyrdd a ddatgelir yn y datganiad hwn. Rydym yn casglu gwybodaeth gan ein defnyddwyr mewn sawl man gwahanol ar ein gwefan.
Mewngofnodi/Defnyddiwr Newydd
Rydym yn gofyn am wybodaeth megis enw, oed, cyfeiriad E-bost ayyb at ddibenion cwblhau'r holiadur.
Cwcis
Darn o ddata sy'n cael ei storio ar ddisg galed defnyddiwr yw cwci. Mae'n cynnwys gwybodaeth am y defnyddiwr. Nid yw defnyddio cwci yn creu cyswllt o unrhyw fath ag unrhyw wybodaeth bersonol y gellir adnabod rhywun ohoni wrth ddefnyddio ein gwefan. Pan mae’r defnyddiwr yn cau ei borwr, mae’r cwci’n dod i ben. Er enghraifft, drwy osod cwci ar ein gwefan, ni fyddai'n rhaid i'r defnyddiwr gyflwyno ei gyfrinair fwy nag unwaith, gan arbed amser wrth ddefnyddio ein gwefan. Gall defnyddiwr barhau i ddefnyddio ein gwefan hyd yn oed os bydd yn gwrthod cwci. Unig anfantais hyn yw na fydd y defnyddiwr yn gallu mynd i rai mannau ar ein gwefan. Gall cwcis hefyd ein galluogi i dracio a thargedu diddordebau ein defnyddwyr er mwyn cyfoethogi eu profiad ar ein gwefan.
Ffeiliau Log
Rydym yn defnyddio cyfeiriadau IP i ddadansoddi tueddiadau, gweinyddu'r wefan, tracio'r defnydd a wneir o'r wefan, ac i gasglu gwybodaeth ddemograffig eang at ddefnydd cyfun. Nid yw cyfeiriadau IP wedi'u cysylltu â gwybodaeth bersonol y gellir adnabod rhywun ohoni.
Dolenni
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Cofiwch nad ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill o'r fath. Rydym yn annog ein defnyddwyr i fod yn ymwybodol o hyn wrth adael ein gwefan ac i ddarllen datganiadau preifatrwydd pob gwefan sy’n casglu gwybodaeth bersonol y gellir adnabod rhywun ohoni. Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i wybodaeth a gesglir gan y wefan hon.
Y rhai mae’r Cwmni’n rhannu'r wybodaeth a gesglir â nhw
Efallai y caiff yr wybodaeth a gyflwynir gennych neu a gesglir ei phasio ymlaen ar fformat dienw i drydydd partïon a fydd yn defnyddio’r wybodaeth at ddibenion sy’n gydnaws â’r rhai y mae’r Cwmni’n defnyddio gwybodaeth ar eu cyfer. Efallai y bydd trydydd partïon sy'n darparu gwasanaethau i'r Cwmni, megis lletya a chynnal a chadw’r Wefan hefyd yn cael mynediad ati. Sylwch: mae’r holl ddata personol a phob cyfrinair wedi’u hamgryptio’n llawn.
Efallai y rhennir ystadegau cyfun am ddefnyddwyr y wefan, eu patrymau gweithgarwch, cyfansoddiad demograffig, hoffterau a gweithgareddau â thrydydd partïon ond nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol.
Mae'r Cwmni'n cadw'r hawl i roi eich holl wybodaeth bersonol, neu rannau ohoni, i'r heddlu neu i unrhyw gorff perthnasol arall at ddibenion datgelu neu atal trosedd, neu unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â'ch camddefnydd, neu eich camddefnydd posibl, o'r wefan neu mewn perthynas ag unrhyw achos cyfreithiol, neu achos cyfreithiol posibl.
Mae'r Cwmni hefyd yn cadw'r hawl i drosglwyddo'r holl wybodaeth bersonol, neu unrhyw ran o’r wybodaeth honno, i rywun sy’n prynu, neu rywun sy’n bwriadu prynu’r wefan neu'r Cwmni neu asedau'r Cwmni.
Rydych yn sylweddoli ac yn cytuno, oherwydd natur y rhyngrwyd, efallai y caiff yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi ei hanfon dros y rhyngrwyd ac efallai y trosglwyddir gwybodaeth bersonol i unrhyw wlad yn y byd, ni waeth faint o gyfreithiau a rheoliadau diogelu sy’n bodoli yn unrhyw rai o’r gwledydd hynny.
Diogelwch
Mae’r wefan hon yn cymryd bob gofal i ddiogelu gwybodaeth ein defnyddwyr. Pan fydd defnyddwyr yn cyflwyno gwybodaeth sensitif drwy’r wefan, caiff yr wybodaeth ei diogelu ar-lein ac all-lein. Rydym yn defnyddio cyfleuster amgryptio SSL i ddiogelu gwybodaeth sensitif ar-lein, ond rydym hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu gwybodaeth defnyddwyr all-lein. Yn ein swyddfeydd, cyfyngir ar yr holl wybodaeth sydd gennym am ddefnyddwyr, nid yn unig yr wybodaeth sensitif a grybwyllwyd uchod. Dim ond gweithwyr sy’n gorfod cael yr wybodaeth i wneud rhyw swydd benodol (er enghraifft, cynrychiolydd gwasanaeth cwsmeriaid) y caniateir iddynt gael mynediad at wybodaeth bersonol y gellir adnabod rhywun ohoni. Rhaid i’n gweithwyr ddefnyddio arbedwyr sgrin sydd wedi'u gwarchod â chyfrinair pan fyddant yn gadael eu desgiau. Pan ddônt yn ôl, rhaid iddynt ailgyflwyno eu cyfrinair i gael mynediad at y sgrin unwaith eto. Yn ogystal, rydym yn sicrhau bod ein HOLL weithwyr yn gwybod beth yw ein harferion diogelwch a phreifatrwydd diweddaraf.